
Galwad Agored | Y Gwneuthurwr
Cefnogwyd gan Gwobr Jane Phillips
Dyddiad arddangosfa: 28 Mawrth – 23 Mai 2026
Lleoliad: Oriel Mission
Ffi’r Artist: £150
Ydych chi’n artist neu’n wneuthurwr sy’n dechrau ar eich gyrfa ac wedi graddio’n ddiweddar?
Mae Gwobr Jane Phillips / Oriel Mission yn chwilio am geisiadau gan artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru i ymddangos yng ngofod y Gwneuthurwr yn Oriel Mission.
Bydd un artist / grŵp cydweithredol yn cael ei ddewis o’r Alwad Agored hon, a bydd yn derbyn:
Cyfle i arddangos yng ngofod y Gwneuthurwr yn Oriel Mission
Yn derbyn Ffi Artist o £150 gan Wobr Jane Phillips
Tudalen benodol ar wefannau Gwobr Jane Phillips ac Oriel Mission
Cyfle marchnata ar ffurf sgwrs artist digidol
Gwobr Jane Phillips:
Mae Gwobr Jane Phillips er cof am Jane Phillips (1957 – 2011) Cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission; mae wedi ei bwriadu i fod yn waddol i angerdd Jane am fentora a meithrin talent, gan roi cefnogaeth gyson ar draws y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol i artistiaid newydd a’r rheini sy’n dechrau ar eu gyrfa.
Y Gwneuthurwr yn Oriel Mission:
Mae’r Gwneuthurwr wedi’i leoli mewn hen genhadfa forwyr anenwadol rhestredig Gradd II yng nghanol Marina Abertawe; mae Y Gwneuthurwr yn fan arddangos yn ardal siop Oriel Mission, o fewn muriau’r hen dŵr cloch. Man arddangos unigryw y gellir ei ddefnyddio fel gosodwaith ac arddangosfa werthu; un o’r pethau cyntaf y mae ymwelwyr yn ei weld wrth gamu i mewn i’r oriel.
Gofynion:
Rhaid i ymgeiswyr fod:
Wedi’u lleoli yng Nghymru – yn byw/gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd
Wedi graddio’n ddiweddar – wedi graddio yn 2023 neu’n ddiweddarach
Rhaid i’r gwaith fod ar gael i’w arddangos rhwng mis Mawrth a mis Mai 2026.
Dyddiad cau am geisiadau: Dydd Llun 1af Rhagfyr 2025
—
Am fwy o wybodaeth am Wobr Jane Phillips: janephillipsaward.com
Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: info@missiongallery.co.uk